Mae’r rhan cyntaf yn esbonio ei hun; ‘Llaeth’. Mae’r ‘Llan’ yn cyfeirio tuag at y pentref agosaf atom, sef Llannefydd. Mae’r llaethdy wedi’i leoli rhyw filltir y tu allan i bentref Llannefydd, nepell o dref hunafol Dinbych.
Ydyn! Lleolir Llaeth y Llan ar fferm Tal Y Bryn, sydd wedi bod yn gartref i deulu’r Roberts ers bedair genhedlaeth bellach. Mae’r Fferm tua 20 acer mewn maint
Daw’r llaeth o ffermydd cyfagos sydd i gyd o fewn radiws o 20km i Dal Y Bryn, mae hyn yn ein cynorthwyo gydag olrhain hanes y llaeth gan sicrhau fod y Gwartheg yn cael y gofal gorau posib a fod y ffermwydd i gyd yn cydymffurfio â safonnau cynllun Red Tractor Assurance.
Allwch, wrth gwrs! Gofynnir i chi drefnu ymweliadau o flaen llaw, felly peidiwch ag oedi i gysylltu â ni er mwyn trefnu eich taith. Cysylltwch naill ai drwy y wefan hon neu drwy cysylltu â’r swyddfa. Gallwch gael taith o amgylch y llaethdy a chyfle i brynnu’r iogwrt ar y diwedd; pob un blas o dan yr un to!
Gan fo’r iogwrt yn cael ei gynhyrchu gan ddefnyddio llaeth sydd wedi’u pasteureiddio, fe ddylai fod yn ddiogel eu fwyta tra’n feichiog. Er hyn, fe ddylech chi ofyn i’ch Meddyg os nag ydych yn sicr.
Gellir prynnu cynnyrch Llaeth y Llan mewn archfarchnadoedd ledled Cymru ac yn Nghanolbarth Lloegr ynghyd â siopau annibynnol a siopau fferm. Edrychwch ar y dudalen stockist er mwyn gweld lle mae’r siop agosaf atoch chi.
Gan ein bod ni’n cynhyrchi 15 o blasau gwahanol, nid yw pob siop yn cynnig yr un amrhediad o flasau. Yn anffodus, nid oes ganddom ni rheolaeth dros y blasau sydd ar gael yn y siopao, nag ychwaith ar y prisiau.