Llaeth Y Llan

Cawl Gwyl Dydd Dewi Sant Cennin, Tatws a Iogwrt

Amser paratoi: 20 munud

Amser Coginio: 25 munud

Digon i 4 o bobol

Cynhwysion:

  1. 2-3 cennin, y rhannau gwyn a golau gwyrdd yn unig, wedi’u sleisio.
  2. 2 daten fawr, wedi’u plicio a’u torri
  3. 1/2 llwy de o halen
  4. 1/4 llwy de o bupur wedi’i falu’n ffres
  5. 5 cwpan o ddwr
  6. 1 llwy fwrdd o fenyn heb di halltu
  7. 1/2 cwpan Iogwrt Naturiol Llaeth Y Llan
  8. 2 lwy fwrdd o dafelli cennin syfi

Dull:

  • Mewn sosban fawr (gadewch wedi’w gorchuddio), fudferwi y cennin gyda cynhwysion 2 i 5 yn y rhester hyd nes i’r tatws droi yn dyner (20-25 munud).
  • Ychwanegwch menyn i’r cynnwys.
  • Gan ddefnyddio cymysgydd, cymysgwch nes yn llyfn.
  • Ychwanegwch y iogwrt a cymysgwch i fewn.
  • Rhannwch rhwng 4 bowlen, ac ychwanegwch ychydig o cennin syfi ar eu pen.