Llaeth Y Llan

Fferm Tal Y Bryn

Hanes Y Fferm

Mae arolwg 1334 o anrhydedd/Esgobaeth Dinbych yn sôn am drefgordd Llechryd, Berain, Myfoniog ac hefyd ein cartref Tal-Y-Bryn. Mae yna dystiolaeth i ddangos mae enw blaenorol y fferm oedd ‘Ael-y-Bryn’.

Y Drefgordd

Yn dyddio yn ôl i amser Hywel Dda yn y 10fed ganrif, roedd y drefgordd yma yn ymestun o Ddyffryn Elwy, lle yr ydym ni heddiw, hyd at Bentrefoelas, rhyw 15-20 milltir i ffwrdd. Roedd yr ardal yma yn berchen i Esgobaeth Llanelwy, lle roedd gwahanol adrannau yn cael ei ffermio ar wahanol adegau o’r flwyddyn; ‘Hendre’ yn y Gaeaf, ‘Maifod’ yn y Gwanwyn a’r ‘Hafod’ yn yr Haf.

Ysgol Sul

Yng nghyfnod Harri VIII yn ystod dadrithio’r mynachlogydd, crëwyd ystadau tir mawr a daeth Tal-y-Bryn yn fferm, ac fe’i nodwyd fel un o’r Ysgolion Sul cyntaf yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, a ddechreuwyd gan Gruffydd Jones o Landdywror yn ystod y 18fed ganrif.

Teulu Roberts yn symud i mewn

Yn ystod y 1890’au, fe wnaeth Taid Gareth Roberts brynnu Tal-Y-Bryn, ond yn anffodus yng nghyfnod y dirwasgiad yn 1920’au fe wnaid yn fethdalwr, a chafodd y fferm ei werthu i Estad Cefn. Fe gafodd Tad Gareth tenantiaeth y fferm, ond wedi iddo ymddeol yn 1972, fe wnaeth Gareth lwyddo i ddaliadaeth Tal-y-Bryn, ac fe prynodd y Ffermdy, adeiladau’r fferm ynghŷd â ychydig o erwau gan yr Estad.