Beth ydym yn ei gynhyrchu?
Iogwrt Byw Blasus!
Yma yn Llaeth y Llan / Village Dairy mae teulu Gareth Roberts wedi bod yn cynhyrchu iogwrt gwych o’r fferm deuluol yng nghanol cefn gwlad Gogledd Cymru ers y 80au. Rydym yn gwneud pob math o flasau blasus mewn pob math o feintiau! Cymerwch olwg.

Ble yr ydym ar gael?
Stocwyr
Gallwch ddod o hyd i amrywiaeth o ein cynnyrch mewn archfarchnadoedd ledled Cymru a siroedd ar hyd y ffin. Defnyddiwch ein map i ddod o hyd i’ch siop agosaf. Methu dod o hyd i siop leol? Gyrrwch neges i ni a byddwn yn gallu dod o hyd i’r siop annibynnol agosaf.

EIN CYSTADLEUAETH FISOL NEWYDD!
Rydym yn rhoi sialens i bob ffotograffwyr proffesiynol neu amatur i ddangos i ni eu hoff Llan. Ydych chi’n mwynhau iogwrt wrth yr Afon Dyfrdwy yn Llangollen? Yn cymryd iogwrt yn eich pecyn cinio wrth gerdded yn Llanberis? Eisiau bwyd wrth wylio’r Rygbi yn Llanelli? Cymerwch lun a dangos i ni! Ewch i’r dudalen #Loveyourllan i gael gwybod sut i gymryd rhan.

I’W HENNIL MIS YMA, CARTHENNI A CHLUSTOGAU PATRWM CYMRAEG GAN MELIN TREGWYNT. POB LWC!

Blodau Sul Y Mamau 2019
Amser paratoi – 15 munud. 1) 4 Potyn iogwrt gwag Llaeth y Llan. 2) 3 Gwelltyn cardfwrdd gwyrdd. 3) 6X blodyn allan o ffelt. (ar gael mewn siopau crefft leol – os ddim, digon hawdd i wneud adra gyda phapur ‘foam’.) 4) 2 ddarn o bapur tisiw lliw. 5) 1 […]

Cawl Gwyl Dydd Dewi Sant Cennin, Tatws a Iogwrt
Amser paratoi: 20 munud Amser Coginio: 25 munud Digon i 4 o bobol Cynhwysion: 2-3 cennin, y rhannau gwyn a golau gwyrdd yn unig, wedi’u sleisio. 2 daten fawr, wedi’u plicio a’u torri 1/2 llwy de o halen 1/4 llwy de o bupur wedi’i falu’n ffres 5 cwpan o ddwr 1 llwy fwrdd o fenyn heb di halltu […]

Nifer o siopau Tesco yn tyfu
Yn y newid o amrediad shilfoedd Tesco mwya diweddar, lansiwyd ein brand i mewn 50+ o siopau Tesco ychwanegol o amgylch Sir Gaer, Sir Amwythig ac y Siroedd Canolbarth. Mae’n gyfnod cyffrous i’r cwmni, i allu gwasanaethu cwsmeriaid newydd yn fwy trylwyr ac yn gadael nhw flasu a mwynhau ein iogwrt yn union fel y cyhoedd […]